Heddlu yn arestio tri yn Abertawe

Mephedrone
Image caption Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i'r cyffur mewn ty.

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi arestio dyn 19 oed a dwy fenyw, 58 oed a 30 oed, ar amheuaeth o fod â'r cyffur Mephedrôn yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi eraill.

Yn ôl yr heddlu cafwyd hyd i Mephedrôn - sydd hefyd yn cael ei alw'n miaw miaw - gyda gwerth stryd o tua £4,000.

Cafwyd hyd i'r cyffur mewn tŷ yn ardal Waun Wen ac mae'r tri gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.