Heddlu'n apelio wedi lladrad ar Ynys Môn

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i leidr ddwyn bag llaw o dŷ menyw 85 oed ar Ynys Môn.

Fe wnaeth y fenyw adael y lleidr i mewn i'w chartref ym Mhen Y Sarn ger Amlwch ddydd Iau diwethaf ar ôl iddo ddweud wrthi fod gwteri'r tŷ wedi cael eu difrodi.

Disgrifir y troseddwr fel dyn gwyn, main, tal, naill ai yn ei arddegau hwyr neu yn ei ugeiniau cynnar gyda gwallt brown byr, syth.

Roedd yn siarad ag acen Saesneg.

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi gadael mewn fan lwyd i gyfeiriad Gadfa.

Disgrifir gyrrwr y fan fel dyn yn ei 50au gyda gwallt llwyd ac yn gwisgo top gwyrdd a melyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.