Morgannwg mewn sefyllfa gadarn

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae Morgannwg mewn sefyllfa gadarn ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Essex yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Erbyn cinio ddydd Iau roedd yr ymwelwyr wedi sgorio 354 am 6 wiced oddi ar 97 pelawd yn eu batiad cyntaf.

Stewart Walters oedd arwr Morgannwg ar y diwrnod cyntaf ac ychwanegodd 30 rhediad arall fore dydd Iau cyn iddo golli ei wiced am 159 toc cyn cinio.

Cyfrannodd Ben Wright 47 i bartneriaeth o 80 gyda Walters cyn iddo gael ei ddal gan Adam Wheater oddi ar fowlio y troellwr profiadol o India, Harbhajan Singh.

Cafodd Jim Allenby ei ddal gan gyn-wicedwr Lloegr James Foster oddi ar fowlio Napier am ddim ond pum rhediad ond fe fydd Mark Wallace (26 heb fod allan) a Grahame Wagg (2 heb fod allan) yn ceisio sicrhau bod Morgannwg yn sgorio mwy na 400 yn ystod chwarae'r prynhawn.

Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 20 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.

Swydd Essex v Morgannwg (Ail Ddiwrnod - cinio)

Morgannwg: (Batiad cyntaf):354-6

Essex:

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.