Amser caled i fowlwyr Morgannwg

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae'r gêm rhwng Morgannwg ag Essex yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn llithro tuag at gêm gyfartal ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

Roedd Morgannwg allan am 438 yn eu batiad cyntaf diolch i gyfraniadau o 159 gan Stewart Walters, a 54 yr un gan Will Bragg a Graeme Wagg.

Daeth cyfraniadau gwerthfawr hefyd gan y capten Mark Wallace a Ben Wright.

Ond roedd y llain yn un dda, ac fe ddaeth hynny i'r amlwg wrth i'r tîm cartref ddechrau batio, ac fe gafodd bowlwyr Morgannwg gryn drafferth.

Pan ddaeth y chwarae i ben ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd Essex wedi sgorio 165 heb golli wiced, gyda Tom Westley wedi sgorio 90 heb fod allan, a Jaik Mickelburgh ar 72 h.f.a.

Roedd rhai yn darogan y bydd y llain yn dirywio cyn diwedd y pedwar diwrnod - bydd rhaid i hynny ddigwydd er mwyn cael canlyniad positif i'r naill dîm neu'r llall yn Cheltenham.

Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 20 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.

Swydd Essex v Morgannwg (Ail Ddiwrnod)

Morgannwg: (Batiad cyntaf): 438 (Walters 159, Bragg 54, Wagg 54)

Essex:(Batiad cyntaf): 165-0

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.