Perthynas Cymru ag Iwerddon yn destun trafodaeth i Ryland Teifi

Ryland Teifi
Image caption Mae Ryland Teifi bellach yn byw yn Iwerddon

Golygydd gwadd olaf Post Cyntaf BBC Radio Cymru yr wythnos yma oedd y canwr a'r actor Ryland Teifi, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd bod y dewis o bwnc yn amlwg iawn iddo gan ei fod bellach yn byw Iwerddon ers dros flwyddyn.

"Dwi'n cymharu Iwerddon â Chymru.

"Fel ymwelydd droeon dros y blynyddoedd edrych ar y gwahaniaeth o fyw yma a'r gogwydd gwahanol sydd yma," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Garry Owen yn holi Bethan Kilfoil a Vaughan Roderick a chymharu Cymru ac Iwerddon

Pan ofynnwyd a oedd byw yn Iwerddon yn well neu'n waeth na'r disgwyl dywedodd, "os fod yn onest, dipyn bach o'r ddau".

"Mae un yn cael blas mwy real o'r wlad o fyw ynddi ac ar y cyfan yn well dwi'n siwr, ond yn ddiddorol.

"Dwi'n credu bod esblygiad yn digwydd ac wedi ymweliad y Frenhines mae wedi bod yn rhywbeth positif.

"Mae'r wlad yn hyderus i wahodd unrhyw un a phobl wedi symud ymlaen ers 1916.

"Dwi wastad wedi bod yn siomedig bod Iwerddon yn edrych ar Brydain fel un wlad i bob pwrpas.

"Ond ar ôl byw yma, sylweddoli bod hyn yn rhywbeth hanesyddol bwysig.

"Dwi hefyd yn synnu faint o ddiddordeb a gwybodaeth sydd gan bobl Iwerddon yng Nghymru o'i gymharu â ni am Iwerddon."

Cymry gwell dramor?

Ei ail bwnc oedd un arall amlwg i'r Cymro oddi cartref a yw byw y tu allan i Gymru yn eich gwneud yn well Cymro.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dyfan Tudur fu'n holi a yw y Cymry yn well yn byw oddi cartref?

"Dwi'n credu fy mod yn Gymro gwahanol yn byw yn Iwerddon.

"Mae'n bwysig cael persbectif a rhywbeth gwahanol.

"Dwi'n cofio dod yma i fyw am gyfnod yn Iwerddon yn 1997 a chael swydd actio yma.

"Roeddwn i'n eiddigeddus o'u diwylliant a'u newyddiaduraeth a'u cysylltiad â'r byd.

"Erbyn hyn mae'r theatr wedi symud 'mlaen yng Nghymru a gwella.

"Mae mynd mas i'r byd yn hanfodol i unrhyw wlad.

"Dwi ddim yn credu bod rhywun fel fi yn mynd mas a chefnu ar Gymru."

Dywedodd iddo gael gwahoddiad i gymryd rhan mewn gŵyl yn Iwerddon gyda'i wraig gan gyfuno diwylliant Cymru ac Iwerddon.

"Fe wnaeth synnu nad oedd pobl Iwerddon wedi clywed straeon gwerin Cymru ac felly mae'n teimlo bod lle gan Gymru i gynnig rhywbeth i'r byd."

"Rhaid i ni yng Nghymru fod yn hyderus a chyfrannu i'r byd a mynd mas a hyrwyddo'n diwylliant.

"Mae modd i ni ddenu mwy o ran twristiaeth drwy'n diwylliant."

Straeon perthnasol