Amgueddfa werin dros dro yn Wrecsam

Merch mewn amgueddfa Image copyright Ceidiog Hughes
Image caption Honnir mai dyma'r amgueddfa leiaf o'i fath yng Nghymru

Mae amgueddfa llên gwerin dros dro wedi agor mewn canolfan siopa yn Wrecsam am dri diwrnod.

Mae trefnwyr yr amgueddfa yn honni mai dyma'r un leiaf o'i math yng Nghymru.

Cwmni theatr o'r enw Bakehouse Factory sydd yn cynnal yr amgueddfa a dywedodd ei gyfarwyddwr creadigol, Hannah McGavin, y byddai'n "dod â straeon o lên werin Cymru'n fyw".

Dywedodd er bod yr amgueddfa'n fach mae'n llawn o bethau i'w wneud.

"Mae llawer o luniau, modelau sy'n symud, botymau gallwch eu pwyso a cherddi gallwch wrando arnynt sydd yn adrodd straeon o lên werin Cymru.

"Byddwn yn adrodd chwedlau o'r Mabinogi yn ogystal â straeon mwy diweddar.

"Mae'n amgueddfa o bethau hynod gyda llawer o luniau a silffoedd a hyd yn oed drws cyfrinachol sydd yn arwain at babell lle bydd straeon yn cael eu hadrodd."

Bwystfil Brymbo

Ymhlith atyniadau'r amgueddfa bydd storïwr yn adrodd hanes y Gwyllgi, un o gŵn du llên werin Cymru.

Yn y 1970au cynnar gwelwyd ci o'r fath yn ardal pentref Brymbo, ger Wrecsam, a chafodd ei enwi'n 'Bwystfil Brymbo'.

Dywedodd Richard Berry, y storïwr: "Yn ystod fy amser yn yr amgueddfa byddaf yn adrodd stori'r Gwyllgi ym Mrymbo.

"Mae'n stori wefreiddiol a dwi'n edrych ymlaen at ei adrodd."

Mae disgrifiadau cŵn du o'r fath fel arfer yn dweud mai anifeiliaid du, tua maint llo, ydynt.

Yn ogystal â'r storïwr bydd croesäwr a churadur yn diddanu ymwelwyr i'r amgueddfa.

Bydd yr amgueddfa yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod yn Wrecsam tan ddydd Sul 19 Awst.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.