Scott Sinclair yn gwrthod arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe

Scott Sinclair Image copyright Getty Images

Mae asgellwr yr Elyrch, Scott Sinclair, yn gwrthod arwyddo cytundeb newydd.

Bydd cytundeb presennol y chwaraewr 23 oed yn dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Mae rhai adroddiadau yn ei gysylltu gyda Manchester City.

"Rwyf wedi siarad gyda Scott ac mae o wedi cadarnhau iddo ddweud wrth y Cadeirydd na fydd e'n arwyddo cytundeb newydd," meddai Michael Laudrup, rheolwr Abertawe.

Mae Laudrup yn derbyn ei fod yn bosibilrwydd y bydd y chwaraewr yn gadael cyn diwedd y ffenestr trosglwyddo ddiwedd y mis.

Mae o wedi sgorio 35 o goliau i Abertawe mewn 90 gêm.

Proffesiynol

"Tan Awst 31 gall unrhyw beth ddigwydd," meddai Laudrup.

"Wrth gwrs, mae yna ddiddordeb gan glwb mawr yn Scott, ond yr unig beth sy'n fy mhoeni i yw sut bydd hynny yn effeithio arno ddydd Sadwrn.

"Pe bai e'n ei effeithio, yna bydd yn rhaid siarad am y peth.

"Byddaf yn siarad gyda Scott ac os yw e'n dweud nad yw am chwarae yna bydd rhaid gweld.

"Ond pe bai'n dweud 'dwi'n berson proffesiynol', yna byddaf yn gwybod ei fod yn y garfan."

Bydd Abertawe yn teithio i Loftus Road ddydd Sadwrn, gêm gyntaf y tymor, i wynebu Queens Park Rangers.

Yn y cyfamser mae'r Elyrch wedi arwyddo Kyle Bartley, amddiffynnwr 21 oed o Arsenal ar gytundeb tair blynedd.