Terfysg: Cyhoeddi gwŷs

Anthony Gristock Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Anthony Gristock wedi cael rhybudd i ddisgwyl dedfryd sylweddol o garchar

Mae gwŷs wedi ei chyhoeddi ar gyfer arestio dyn o Gaerdydd wnaeth lunio tudalen Facebook oedd yn annog trais yn ystod terfysgoedd yn Lloegr yr haf diwethaf.

Cyhoeddwyd y wŷs ar ôl i Anthony Gristock, 24 o'r Rhath, fethu ag ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd er mwyn cael ei ddedfrydu.

Roedd Gristock eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gynorthwyo trais drwy ddefnyddio'r we.

Y mis diwethaf dywedodd y barnwr Nicholas Gareth Jones y gallai Gristock ddisgwyl cyfnod sylweddol dan glo.

Yn wreiddiol roedd Gristock wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ond fe newidiodd ei ble fis diwethaf.

Cafodd Gristock fechnïaeth ar yr amod ei fod yn ymddangos dydd Gwener er mwyn ei ddedfrydu.

Mae dyn arall, Jamie Counsel, 25 hefyd o'r Rhath, eisoes wedi ei garcharu am dros dair blynedd ar ôl pledio'n euog i'r un math o drosedd.