Y symbol Paralympaidd yn cyrraedd Caerdydd

Agitos y symbol Paralympaidd Image copyright Getty Images
Image caption Daeth athletwyr Paralympaidd a swyddogion i lansio'r symbol Paralympaidd - Agitos - ger Neuadd Dinas Caerdydd

Gydag ychydig llai na phythefnos i fynd tan i'r Gemau Paralympaidd ddechrau yn Llundain, mae symbol y Gemau wedi cael ei osod y tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Hwn yw'r cyntaf o'r symbolau Agitos i gael eu gosod ar draws y DU cyn dechrau'r Gemau ar Awst 29.

Daeth athletwyr Paralympaidd presennol a'r gorffennol i'r lansiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener, gan gynnwys rhai o Awstralia a Papua Gini Newydd sydd wedi sefydlu eu gwersyll ymarfer yn y brifddinas.

Bydd y symbol 13 metr o hyd ac 8 metr o uchder yn gefndir i ddathliadau Caerdydd ar Awst 27 wrth groesawu ras gyfnewid y Fflam Paralympaidd.

Mae'r symbol Agitos yn pwyso tunnell.

Datgelodd trefnwyr y Gemau yn ddiweddar y bydd y Fflam Paralympaidd i Gymru yn cael ei greu ar gopa'r Wyddfa a'i gludo i Gaerdydd lle bydd yn ganolbwynt diwrnod o ddathliadau.

'Hanes gwych'

Dywedodd cadeirydd y trefnwyr LOCOG, Sebastian Coe: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio'r symbol Agitos cyntaf yma yng Nghaerdydd.

"Mae gan Gymru hanes gwych o gefnogi athletwyr paralympaidd ar bob lefel.

"Rwy'n siŵr y bydd yr Agitos yn ysbrydoli trigolion, cefnogwyr ac athletwyr i chwarae rhan yn Gemau Llundain 2012."

Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Chwaraeon Cymru: "Er ein bod wedi cymryd at y cylchoedd Olympaidd sydd wedi eistedd y tu allan i Neuadd y Ddinas, rwy'n siŵr y bydd y cyhoedd yr un mor gyffrous o weld yr Agitos Paralympaidd yn cymryd eu lle.

"Rydym wedi gorgyflawni yn y Gemau Paralympaidd dros y blynyddoedd ac mae hyn oherwydd y gefnogaeth sy'n dod i gampau'r anabl yng Nghymru, a gyda brwdfrydedd ac angerdd hyfforddwyr, athletwyr a chefnogwyr."

Jon Morgan yw cyfarwyddwr Chwaraeon Anabl Cymru.

"I genedl sydd mor angerddol a balch o'i hymrwymiad i'r Gemau Paralympaidd a chwaraeon anabl, mae'n anrhydedd i'n prifddinas gael bod yn gartref i symbol y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol - yr Agitos."

Straeon perthnasol