Rali i wrthwynebu newidiadau iechyd a chofio streic

Gweithwyr yn ystod streic 1911 yn llanelli.Llun: Gwasanaeth Llyfrgelloedd Llanelli Image copyright Other
Image caption Bydd yr orymdaith yn nodi 101 mlynedd ers streic rheilffordd pan fu farw dau ddyn ac ymgyrch yn erbyn newidiadau arfaethedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Daeth tua 80 o bobl i orymdaith a rali i nodi 101 mlynedd ers streic rheilffordd yn Llanelli pan fu farw dau ddyn, ac roedd hefyd yn rhan o brotest yn erbyn newidiadau i ysbyty'r dref.

Cynhaliwyd y brotest ddydd Sadwrn i wrthwynebu newidiadau arfaethedig i Ysbyty'r Tywysog Philip.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda newidiadau sylweddol i'r Gwasanaeth Iechyd yng ngorllewin Cymru ar ddechrau mis Awst.

O dan y cynlluniau byddai Uned Ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cau a "chanolfan ddamweiniau leol" o dan ofal nyrsys yn ei lle.

Gweithwyr rheilffordd

Yn ôl y bwrdd iechyd, gallai 80% o'r achosion sy'n mynd trwy ddrysau'r uned ddamweiniau gael eu disgrifio fel 'mân anafiadau'.

Gallai gwasanaethau orthopedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro gael eu canoli yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn ôl cynlluniau'r bwrdd.

Image copyright Other
Image caption O dan y cynlluniau byddai Uned Ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cau

Mae'r cynlluniau hefyd yn cyfeirio at sefydlu canolfan dementia newydd gyda 15 o welyau, a chanolfan arbenigol ar gyfer gofal canser y fron yno.

Mae'r orymdaith a rali wedi eu trefnu gan Gyngor Undebau Llafur Llanelli.

Dywedodd Ysgrifennydd pwyllgor y Cyngor, John Willcock: "Rydym am achub ein gwasanaeth iechyd.

"Rydym wedi penderfynu cyfuno'r rali er cof am streic 1911 â phrotest yn erbyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus yn enwedig yn Ysbyty'r Tywysog Philip."

Ar Awst 19, 1911, saethodd milwyr Leonard Worsell, 19 oed, a John John, gweithiwr tun 21 oed, yn farw.

Roedd gweithwyr rheilffordd Llanelli ac yn nhrefi a dinasoedd gwledydd Prydain wedi mynd ar streic oherwydd cyflogau.

Fe ymgasglodd cannoedd ger gorsaf y dref er mwyn rhwystro unrhyw drenau rhag mynd heibio.

Ond pan lwyddodd trên i basio, rhedodd y dorf ar ei ôl a dechreuodd y milwyr saethu.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.