Diffoddwyr yn achub mam a'i phlentyn yn dilyn glaw trwm

Llifogydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Mae diffoddwyr tân wedi achub mam a'i phlentyn 10 oed o gar gafodd ei ddal mewn dŵr ar un o gyffyrdd prysuraf Abertawe.

Cafodd y car ei ddal mewn dŵr dwfn ar gylchfan Ynysforgan o dan yr M4 yn Nhreforys.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru nad oedd y ddau wedi bod mewn perygl.

Yn y cyfamser mae diffoddwyr tân yn delio â dŵr ar ffyrdd yn ardal parc Kingrosia yng Nghlydach yn dilyn glaw trwm.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhoi rhybudd oren o law trwm ar gyfer rhannau o'r gogledd a'r gogledd ddwyrain, y gorllewin a sir Benfro.

Mae posibilrwydd hefyd o law taranllyd dros nos.

Dywed yr asiantaeth y dylai pobl gadw llygad ar y rhagolygon tywydd ar y cyfryngau, neu ymweld â gwefan yr Asiantaeth am y wybodaeth ddiweddaraf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.