Scarlets yn arwyddo'r clo Jake Ball

Jake Ball Image copyright other
Image caption Mae tad Jake Ball yn hanu o Fae Colwyn

Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi bod y clo o Awstralia, Jake Ball, wedi ymuno gyda'r rhanbarth.

Mae Ball, sy'n 21 oed ac yn gymwys i chwarae i Gymru gan fod ei dad yn Gymro o Fae Colwyn, wedi arwyddo cytundeb i chwarae ym Mharc y Scarlets am dair blynedd.

Yn 6'7" o daldra, mae Ball yn cael ei ystyried yn un o dalentau mwyaf addawol cystadleuaeth Pindan Premier Grade yn Awstralia, a bu'n ymarfer gyda chlwb Western Force yn y Super-15.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, y gallai Ball ffynnu o fewn sustem y Scarlets.

"Mae Jake yn rhoi dewis arall i ni yn yr ail reng," meddai, "a'r peth gwych am arwyddo chwarae o'i dalent amrwd yw y gall wella o fewn ein sustem hyfforddi.

"Mae'n fachgen mawr ac mae'n siŵr o wella ar ei berfformiadau da hyd yma.

"Yn ogystal, mae'n beth positif cael denu chwaraewr o'i botensial sy'n gymwys i Gymru i'n rhengoedd gan wella'r dyfodol i'r tîm cenedlaethol."

Wrth gyrraedd Llanelli, dywedodd Ball ei fod wedi plesio'n arw gyda'r adnoddau a'i fod yn edrych ymlaen at weithio gyda hyfforddwr blaenwyr newydd y Scarlets, Danny Wilson, a fu'n gweithio mor llwyddiannus gyda thîm dan-20 Cymru eleni.