QPR 0-5 Abertawe

Image copyright PA
Image caption Michu yn dathlu ar ôl sgorio'i gôl gyntaf

Queens Park Rangers 0-5 Abertawe

Roedd hi'n ddechrau disglair i un o enwau newydd yr Elyrch yn Loftus Road brynhawn Sadwrn.

Dyma oedd gêm gyntaf Michu i Abertawe ers iddo ymuno o glwb Rayo Vallecano yn Sbaen dros yr haf. Roedd wedi chwarae i Mallorca pan oedd Michael Laudrup yno fel rheolwr.

O fewn wyth munud i ddechrau ei gêm gyntaf yn yr Uwchgynghrair, fe sgoriodd i roi'r Elyrch ar y blaen.

Er mai Queens Park Rangers gafodd y gorau o'r chwarae yn y chwarter awr cyntaf, roedd amddiffyn Abertawe'n gadarn, ac fe arhoson nhw ar y blaen tan yr egwyl.

Yn wir fe allai'r sgôr fod wedi bod yn fwy, ond fe darodd Michu a Chico Flores y trawst gyda dwy ergyd rymus.

Wyth munud wedi dechrau'r ail hanner, roedd Michu wedi cael un arall.

Fe ddaeth o Sbaen gydag enw da am sgorio goliau o ganol cae - yn wir ef oedd prif sgoriwr Sbaen ymysg chwaraewyr canol cae La Liga y tymor diwethaf.

Cafodd ei arwyddo pan fethodd Abertawe â sicrhau gwasanaeth Gulfi Sigurdsson o Hoffenheim wedi ei gyfnod llwyddiannus ar fenthyg yn Stadiwm Liberty y tymor diwethaf.

Rhyfeddol

Aeth pethau'n well fyth i dîm Michael Laudrup wedi 63 munud pan ychwanegodd Nathan Dyer y drydedd.

Roedd ambell wedi darogan tymor anodd i Abertawe wedi iddyn nhw golli eu rheolwr, Brendan Rodgers, a'r seren Joe Allen i glwb Lerpwl.

Ond roedd ambell un o gefnogwyr Abertawe hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd credu pan aeth yr Elyrch bedair ar y blaen wrth i Nathan Dyer ychwanegu ail gôl.

Mae sibrydion y bydd Scott Sinclair yn gadael y Liberty yn fuan, ond os fydd hynny'n digwydd roedd ganddo un anrheg fach i'r cefnogwyr wrth iddo ddod i'r cae fel eilydd ynlle Dyer ac ychwanegu'r bumed gôl i'r Elyrch.

Doedd dim dwywaith bod hwn yn ganlyniad rhyfeddol i dîm oedd yn cael trafferth sgorio goliau y tymor diwethaf.

Collodd Abertawe eu gêm gyntaf erioed yn yr Uwchgynghrair y tymor diwethaf o 4-0 yn erbyn y tîm aeth ymlaen i ennill y bencampwriaeth.

Mae'n ddyddiau cynnar iawn, ond mae cael sgôr gwell fyth o'u plaid yn ddechrau dipyn gwell i'r tymor hwn.

TABL YR UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. ABERTAWE 1 +5 3
2. Fulham 1 +5 3
3. WBA 1 +3 3
4. Chelsea 1 +3 3