Goliau lu yn Uwchgynghrair Cymru

Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair Cymru Image copyright Other
Image caption Y Seintiau Newydd yn dathlu wrth fod yn bencampwyr y tymor diwethaf

Roedd 'na benwythnos cyffrous i ddechrau Uwchgynghrair Cymru ar dymor newydd dros y penwythnos.

Sgoriwyd ymhell dros 20 o goliau yn y chwe gêm a chwaraewyd nos Wener a brynhawn Sadwrn.

Prestatyn 4-2 Lido Afan (Sadwrn)

Daeth hat-tric i Andy Parkinson wrth i Brestatyn roi cweir i Lido Afan. Aeth Prestatyn ddwy ar y blaen cyn i Lido Afan gael gôl eu hunain o fewn eiliadau i ddiwedd yr hanner cyntaf i'w gwneud hi'n 2-1 ar yr egwyl.

Ond ychwanegodd Parkinson ddwy arall at yr un a gafodd yn yr hanner cyntaf i gwblhau buddugoliaeth ysgubol i'r tîm cartref er i Mark Jones gael gôl gysur yn hwyr i'r ymwelwyr.

Caerfyrddin 2-0 Aberystwyth (Sadwrn)

Rhoddodd Jack Christopher y tîm cartref ar y blaen wedi 67 munud, ond o fewn munud i hynny roedd Caerfyrddin i lawr i ddeg dyn wrth i Mathew Rees weld y cerdyn coch am ddefnyddio iaith aflednais.

Nid bod hynny wedi bod yn broblem i Gaerfyrddin. Ychwanegodd Liam Thomas ail gôl iddyn nhw gyda chwe munud yn weddill i sicrhau'r pwyntiau.

Port Talbot 1-2 Llanelli (Sadwrn)

Roedd Llanelli wedi colli nifer o chwaraewyr dros yr haf, gan gynnwys eu prif sgoriwr - a phrif sgoriwr y gynghrair am y saith tymor diwethaf - Rhys Griffiths wrth iddo ymuno gyda Plymouth Argyle.

Ond un o'u henwau cyfarwydd roddodd Llanelli ar y blaen wedi 18 munud wrth i Luke Bowen rwydo.

Ond aeth cic o'r smotyn i'r tîm cartref cyn yr egwyl, a Cortez Belle gamodd ymlaen i unioni'r sgôr.

O fewn dau funud i ddechrau'r ail hanner, roedd Llanelli yn ôl ar y blaen diolch i Craig Moses, a doedd dim mwy o goliau.

Y Seintiau Newydd 1-0 Airbus UK Brychdyn (Gwener)

Dechreuodd y pencampwyr - Y Seintiau Newydd - eu hymgyrch ar eu tomen eu hunain yng Nghroesoswallt gydag ymweliad Airbus UK Brychdyn

Roedd gôl Simon Spender wedi 74 munud o'r ornest yn ddigon i gipio'r tri phwynt i'r pencampwyr.

Bangor 2-1 GAP Cei Cona (Gwener)

Dechreuodd Bangor eu tymor yn Stadiwm Nantporth gan groesawu'r newydd-ddyfodiaid, GAP Cei Cona.

Chris Simm sgoriodd gôl gynta'r tîm cartref wedi naw munud ond fe ddaeth Cei Cona'n gyfartal pan rwydodd Dean Canning wedi 32 munud o'r ornest.

Cipiodd Bangor y pwyntiau gyda gôl ym munud ola'r gêm wrth i David Morley rwydo o'r smotyn.

Bala 4-4 Y Drenewydd (Gwener)

Bu'n rhaid i'r Bala a'r Drenewydd rhannu'r pwyntiau yn dilyn gêm anhygoel ar Faes Tegid nos Wener.

I bob pwrpas roedd y gêm ar ben wedi hanner awr ar ôl i'r ymwelwyr rwydo dair gwaith.

Ond sgoriodd y tîm cartref bedair gôl yn olynol gan feddwl eu bod wedi selio buddugoliaeth wych yn erbyn y tîm o'r canolbarth.

Ond llwyddodd y Frongochiaid i ddod yn gyfartal wrth i Andrew Jones rwydo ym munud ola'r gêm.

Luke Boundfield sgoriodd gôl gynta'r Drenewydd wedi saith munud a dyblodd Craig Whitfield fantais yr ymwelwyr ddwy funud yn ddiweddarach.

Shane Sutton sgoriodd drydedd gôl Y Drenewydd wedi 29 munud cyn i'r Bala daro yn ôl ddwy waith cyn yr egwyl.

Connall Murtagh sgoriodd gôl gynta'r Bala wedi 36 munud cyn i Ian Sheridan sgorio'r ail wedi 44 munud.

Daeth y Bala'n gyfartal pan rwydodd Sheridan unwaith eto ar ôl 72 munud a sgoriodd Sheridan ei drydedd gôl ddwy funud cyn diwedd yr ornest.

Ond Andrew Jones a gafodd y gair olaf pan rwydodd yntau i'r Drenewydd eiliadau cyn y chwiban olaf.

Nos Wener

Bala 4-4 Y Drenewydd

Bangor 2-1 Cei Cona

Y Seintiau Newydd 1-0 Airbus

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.