Buddugoliaeth i Gasnewydd yn eu cartref newydd

Image copyright bbc

Casnewydd 2-1 Lincoln City

Mae dechrau da Casnewydd i'r tymor yn parhau gyda buddugoliaeth arall - yn erbyn Lincoln y tro hwn.

Aaron O'Connor sgoriodd ddwywaith i dîm Justin Edinburgh yn yr hanner cyntaf ar Rodney Parade i roi'r Alltudion 2-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Yn ôl y daeth yr ymwelwyr, ac fe sgoriodd Jamie Taylor iddyn nhw wedi chwe munud o'r ail gyfnod.

Ond fe ddaliodd Casnewydd eu gafael am y drydedd buddugoliaeth mewn tair gêm - y dechrau delfrydol i'r tymor sy'n eu gadael yn glir ar frig y tabl.

Ebbsfleet 1-1 Wrecsam

Nid felly Wrecsam, a gafodd gêm gyfartal yn Ebbsfleet brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cynta' di-sgôr, Wrecsam aeth ar y balen diolch i gôl gan Johnny Hunt wedi 49 munud.

Felly yr arhosodd hi tan 20 munud cyn y chwib olaf pan rwydodd Liam Enveer-Marum i unioni'r sgôr.

Mae'r un pwynt yn gadael Wrecam yng nghanol y tabl wedi tair gêm.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CASNEWYDD 3 5 9
2. Henffordd 3 4 7
3. Luton 3 3 7
4. Caergrawnt 3 3 7
5. Tamworth 3 2 7
13. WRECSAM 3 0 4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.