Milwr a fagwyd yng Nghymru wedi marw

Gwarchodluwr Jamie Shadrake Image copyright MOD
Image caption Roedd Jamie Shadrake wedi dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed ddydd Mawrth

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod milwr gafodd ei ladd yn Afghanistan ddydd Gwener wedi ei fagu yn ardal Llanharan.

Roedd y Gwarchodluwr Jamie Shadrake yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Grenadier, ac fe gafodd ei saethu'n farw yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand.

Ymunodd Jamie Shadrake, oedd yn 20 oed, gyda'r fyddan pan oedd yn 17. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yng Nghatraeth, bu'n gweithio yn Llundain ar dasgau seremonïol yn Palasau Brenhinol.

Roedd yn chwaraewr rygbi brwd ac wedi chwarae i glwb Llanharan ac i glwb ei fataliwn ar bob cyfle.

Mae ei deulu, sydd bellach yn byw yn ardal Wrecsam, wedi ei ddisgrifio fel milwr balch a mab a brawd cariadus.

Mae'n gadael ei rieni, Cathryn a Philip, tri brawd - Carl, Kieran a Shane - a chwaer Kerry-Anne.

'Goleuo ystafell'

Talodd ei deulu deyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Jamie yn fab a brawd gwych. Roedd yn falch o fod yn filwr, a bu farw'n gwneud y gwaith yr oedd yn ei garu.

"Rydym fel teulu yn falch fod Jamie yn fodlon gwneud ei ddyletswydd drwy helpu pobl Afghanistan.

"Roedd yn goleuo ystafell gyda'i wen, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl gan gymaint oedd yn ei garu."

Dywedodd ei bennaeth, yr Is-Gyrnol James Bowder MBE: "Roedd Gwarchodluwr Shadrake yn ddyn ifanc eithriadol. Roedd yn llawn egni a brwdfrydedd, ac yn filwr talentog gyda llawer iawn i'w gynnig i'r fyddin.

"Mae ein gweddïau gyda'i rieni a'i deulu ar yr amser anodd iawn yma. Mae ei farwolaeth yn ergyd fawr i'r bataliwn."

Cydymdeimlad

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond AS: "Mae'n dristwch mawr clywed am farwolaeth Gwarchodluwr Shadrake, milwr ifanc oedd yn boblogaidd gyda'i gyfoedion a'i benaethiaid fel ei gilydd, ac un oedd wedi dangos addewid mawr am yrfa lwyddiannus yn y fyddin.

"Roedd wedi ymroi i'w waith, ac roedd yn gwneud ei waith gyda balchder a phroffesiynoldeb, a bu farw dros ei wlad yn ymladd i warchod diogelwch y Deyrnas Unedig.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu'r Gwarchodluwr Shadrake a'i gyfeillion ar y cyfnod anoddaf yma."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.