Hall yn ennill Pencampwriaeth Meistri Menywod Prydain

Lydia Hall Image copyright other
Image caption Gorffennodd Hall, 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ddwy ergyd o flaen Beth Allen o'r Unol Daleithiau

Enillodd Lydia Hall Bencampwriaeth Meistri Menywod Prydain yng nghlwb golff Buckingham ddydd Sul.

Gorffennodd Hall, 24 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, y gystadleuaeth ddwy ergyd o flaen Beth Allen o'r Unol Daleithiau gan orffen saith ergyd yn well na'r safon yn dilyn rowndiau o 66,71, a 72.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Roedd ei thad, cyn fachwr tîm rygbi Cymru, Wayne Hall, yno i'w gweld hi'n ennill ei phencampwriaeth gyntaf.

"Rwyf wedi aros i ennill pencampwriaeth am bum mlynedd," meddai Lydia Hall.

"Rwyf wedi gwneud yn dda yn Dubai yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond heddiw oedd un o fy mhrofiadau cyntaf o chwarae yn y grŵp oedd ar y blaen gan orfod ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig â hynny."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.