Damwain yn un o dwneli Brynglas yn achosi oedi ar yr M4

Parc Tredegar ar briffordd yr M4 Image copyright Traffig Cymru
Image caption Bu tagfeydd yn ymestyn pedwar milltir hyd at gyffordd 28 y briffordd ym Mharc Tredegar

Bu'n rhaid i yrwyr ar lôn ddwyreiniol yr M4 wynebu cyfnod o oedi yng Nghasnewydd yn dilyn damwain yn un o dwneli Brynglas.

Digwyddodd y ddamwain am 9:55am ddydd Llun wedi i gar fod mewn gwrthdrawiad â fan ar lôn ddwyreiniol y twnnel ger cyffordd 26 ym Malpas.

Mae cerbydau yn teithio ar gyflymder o 10 m.y.a ac roedd 'na dagfeydd yn ymestyn pedwar milltir hyd at gyffordd 28 y briffordd ym Mharc Tredegar

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd unrhyw un wedi ei anafu yn dilyn y ddamwain rhwng car Citroen C2 a fan Fiat Doblo.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.