Enwi'r ddau fu farw wedi damwain awyren y Sir Gaer

Karl Hendrickson Image copyright Other
Image caption Bu farw Karl Hendrickson wedi damwain awyren nos Iau

Mae'r ddau ddyn gafodd eu lladd ar ôl i awyren fechan gwympo i'r ddaear ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi eu henwi gan Heddlu Sir Gaer.

Bu farw Karl Hendrickson, 43 oed o'r Wyddgrug, Sir Y Fflint, a John Green, 50 oed, o Surrey wedi'r ddamwain ddigwyddodd tua 8:55pm nos Iau diwethaf.

Dywedodd yr heddlu fod yr awyren a laniodd ar dir fferm rhwng Wrecsam a Chaer wedi cychwyn o Ysgol Hedfan Sir y Fflint ym Maes Awyr Penarlâg.

Yn ôl yr heddlu roedd staff ym Maes Awyr Penarlâg yn Sir y Fflint wedi cofnodi bod yr awyren "ar goll" am 8.55pm.

Fe ddaeth hofrennydd yr heddlu o hyd i'r awyren mewn cae ar dir fferm ger pentref Churton i'r de o ddinas Caer.

Mae teulu Mr Hendrickson wedi talu teyrnged iddo.

"Roedd Karl yn dad ac yn ŵr cariadus fu'n gweithio i gwmni Airbus am 20 mlynedd.

"Roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn hedfan ac fe fydd ei wraig, ei ferch, ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli."

Mae Adran Ymchwiliadau Damweiniau Awyr yn ymchwilio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.