Corff milwr wedi dychwelyd o Afghanistan

Gwarchodluwr Jamie Shadrake Image copyright MOD
Image caption Roedd Jamie Shadrake wedi dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed ddydd Mawrth

Mae corff milwr a laddwyd yn Afghanistan wedi cael ei hedfan yn ôl i'r Deyrnas Unedig ddydd Mawrth.

Cafodd Jamie Shadrake, 29 oed, oedd yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Grenadier, ei ladd yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ddydd Gwener.

Cafodd ei fagu yn Llanharan yn Ne Cymru cyn i'w deulu symud i Wrecsam.

Glaniodd yr awyren oedd yn cludo corff Mr Shadrake a chyrff dau filwr arall - Is-gapten Andrew Chesterman o Fryste, a'r is-gorporal Matthew Smith o Aldershot - ym maes awyr Brize Norton yn Swydd Rhydychen am 1.30 pm.

'Milwr balch'

Cafwyd seremoni breifat i'r teuluoedd mewn canolfan arbennig cyn i'r cyrff gael eu cludo i Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen.

Mae disgwyl i'r cyhoedd ymgynnull wrth safle gardd goffa yn Carterton er mwyn rhoi teyrnged i'r milwyr wrth i'r hersiau fynd heibio.

Ymunodd Jamie Shadrake gyda'r fyddan pan oedd yn 17. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yng Nghatraeth, bu'n gweithio yn Llundain ar dasgau seremonïol yn Palasau Brenhinol.

Roedd yn chwaraewr rygbi brwd ac wedi chwarae i glwb Llanharan ac i glwb ei fataliwn.

Mae ei deulu, sydd bellach yn byw yn ardal Wrecsam, wedi ei ddisgrifio fel milwr balch a mab a brawd cariadus.

Mae'n gadael ei rieni, Cathryn a Philip, tri brawd - Carl, Kieran a Shane - a chwaer Kerry-Anne.

Talodd ei deulu deyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Jamie yn fab a brawd gwych. Roedd yn falch o fod yn filwr, a bu farw'n gwneud y gwaith yr oedd yn ei garu.

"Rydym fel teulu yn falch fod Jamie yn fodlon gwneud ei ddyletswydd drwy helpu pobl Afghanistan.

"Roedd yn goleuo ystafell gyda'i wen, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl gan gymaint oedd yn ei garu."

Mae 425 o filwyr Prydain wedi cael eu lladd yn Afghanistan ers dechrau'r ymgyrch ym mis Hydref 2001.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.