Heddlu'n dal i holi dyn oedd ar amheuaeth o geisio llofruddio

Heddlu yn Ffordd Dulyn, Llandudno
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad amser cinio ddydd Llun

Mae'r heddlu'n dal i holi dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl i ddau o bobl gael eu hanafu'n ddifrifol mewn ymosodiad yn Llandudno.

Ddydd Llun cafodd dyn lleol 66 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl dau ymosodiad yn Ffordd Dulyn yn y dref.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ yn y stryd am 12pm ddydd Llun.

Aed â dyn a dynes, sy'n byw yn lleol ac y credir eu bod yn eu 60au, i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddau mewn cyflwr difrifol.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu all eu cynorthwyo i gysylltu gyda nhw ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.