Yr heddlu'n cael mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio

Heddlu yn Ffordd Dulyn, Llandudno
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad amser cinio ddydd Llun

Mae'r heddlu wedi cael amser ychwanegol gan uwch heddwas i holi dyn 66 oed mewn cysylltiad ag ymgais ddwbl i lofruddio.

Cafodd y dyn lleol ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddio wedi dau ymosodiad o drywanu honedig yn Llandudno.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn a dynes, y credir eu bod yn eu 60au, yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd heddlu arfog eu galw i dŷ yn Ffordd Dulyn o Landudno ddydd Llun am 12pm.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu all eu cynorthwyo i gysylltu gyda nhw ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.