Maes Awyr Caerdydd yn amddiffyn llai o deithwyr

Maes Awyr Caerdydd Image copyright BBC news grab
Image caption Mae 'na gwestiynnau wedi bod am ddyfodol y maes awyr

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi amddiffyn eu perfformiad er gwaetha gostyngiad yn nifer y teithwyr yn hanner cyntaf 2012.

O fis Ionawr tan ddiwedd mis Mehefin fe wnaeth 440,000 o deithwyr ddefnyddio'r maes awyr o'i gymharu â 558,000 yn yr un cyfnod y llynedd.

Dywedodd y maes awyr bod y gostyngiad yn bennaf oherwydd penderfyniad cwmni bmibaby i ddod a'u gwasanaeth o Gaerdydd i ben.

Fe wnaethon nhw ychwanegu y bydd gwasanaethau newydd i Sbaen a Florida yn "ddatblygiadau positif" a'u bod yn mwynhau marchnad siarter "cryf".

Yn ôl y maes awyr fe fyddai'r nifer o deithwyr ar gyfer y chwe mis cyntaf yn 2011 yn 464,000 petai teithiau bmibaby ddim yn cael eu cynnwys.

Er gwaetha'r gostyngiad, dywed llefarydd bod lle i fod yn obeithiol.

Toriadau

"Mae 'na nifer o ddatblygiadau positif wedi bod yn ystod haf 2012 gan gynnwys teithiau Vueling i Barcelona, Alicante a Palma a chwmni Cosmos yn teithio i Orlando," meddai.

"Ond mae nifer y teithwyr wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd toriadau gam gwmnïau hedfan a gwasanaethau fel bmibaby yn dod i ben yma.

"Mae Maes Awyr Caerdydd yn dal i fod â marchnad siarter cryf.

"Mae 'na gynnydd yn y traffig mewnol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn naturiol, mae'r rhain yn fwy buddiol i Gymru ac i economi Cymru."

Ychwanegodd y llefarydd bod datblygu teithiau yn dal yn flaenoriaeth a'u bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy Dasglu Maes Awyr newydd a'r Parth Mentergarwch.

Mae'r maes awyr hefyd wedi gohirio penodi olynydd i Patrick Duffy, rheolwr gyfarwyddwr y maes awyr, a adawodd ym mis Mai.

Yn hytrach maen nhw'n dweud y bydd y cyfarwyddwr presennol yn parhau i redeg y maes awyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.