Rhyddhau lluniau o leidr honedig metel o do ysgol gynradd

Mae'r heddlu yn awyddus i adnabod y person welwyd ar deledu cylch cyfyng ar dir yr ysgol ar Awst 8 Image copyright South Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn awyddus i adnabod y person welwyd ar deledu cylch cyfyng ar dir yr ysgol ar Awst 8

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o leidr metal honedig ar ôl i do ysgol gynradd gael ei ddifrodi.

Roedd rhywrai wedi dwyn rhan o do Ysgol Gynradd Tonypandy'r wythnos diwethaf gan achosi difrod gwerth £20,000.

Cafodd y dyn ei weld yn ymddwyn yn amheus ar dir yr ysgol am 2.37am ar Awst 8.

Credir ei fod yng nghwmni rhywun arall.

Dyma'r trydydd tro i'r ysgol gael ei thargedu yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i'r lladrad ar ôl iddyn nhw gael gwybod am y digwyddiad ar Awst 16.

Wrth ryddhau'r lluniau, dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Clarke, ei fod yn gobeithio y bydd y lluniau yn gymorth i ganfod y rhai sy'n gyfrifol.

"Dwi'n annog y person yma i gysylltu gyda ni, i adael i ni wybod be oedd o'n ei wneud ar dir yr ysgol ar amser mor anarferol.

"Dwi hefyd yn apelio ar y gymuned leol i edrych ar y person a gadael i ni wybod pwy ydi o er mwyn i ni ei holi yn uniongyrchol."

Fe wnaeth Mr Clarke annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad i gysylltu gyda nhw.

"Rydym yn gwneud popeth posib i ganfod y rhai sy'n gyfrifol ond rydym angen cymorth y cyhoedd.

"Mae rhywun yn rhywle yn gwybod pwy wnaeth."

Os oes ganddoch chi wybodaeth fe ddylech chi gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.