Clydesdale Bank 40: Surrey yn chwalu eu hymwelwyr Morgannwg

Sgoriodd Kevin Pietersen 43 i Surrey yn erbyn Morgannwg Image copyright Reuters
Image caption Sgoriodd Kevin Pietersen 43 i Surrey yn erbyn Morgannwg

Surrey 219-9 (40 pelawd) v Morgannwg 126 (26.3 pelawd) Surrey yn ennill o 93 rhediad

Fe lwyddodd Surrey i ennill yn erbyn Morgannwg o 93 rhediad ar Yr Oval yn Grŵp B pencampwriaeth Clydesdale Bank 40 nos Fawrth.

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau dîm herio'i gilydd ers marwolaeth Tom Maynard, a fu'n chwarae i'r ddau dîm.

Roedd y gêm hefyd yn gychwyn swyddogol i Ymddiriedolaeth Tom Maynard er cof am y cricedwr a fu farw ym mis Mehefin.

Roedd sgôr o 51 gan Matthew Spriegel a 43 gan Kevin Pietersen o gymorth i'r tîm cartref gyrraedd 219 wrth i Graham Wagg gymryd 4-45 dros Forgannwg.

Collodd yr ymwelwyr eu captern Mark Wallace a Jim Allenby yn gynnar ac er gwaetha ergydion hwyr gan Wagg a Dean Cosker doedd hi ddim yn ddigon gyda'r tîm i gyd allan ar 126.

Mae Surrey yn ail yn y tabl, pwynt y tu ôl i Sir Hampshire sydd ar y brig.

Mae Morgannwg yn ail o'r gwaelod gydag un rownd o gemau eto i'w chwarae.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.