Gêm ddi-sgôr wrth i Gaerdydd deithio i Brighton

Jordan Mutch dros Gaerdydd yn rhan o'r chwarae yn erbyn Brighton nos Fawrth Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jordan Mutch dros Gaerdydd yn rhan o'r chwarae yn erbyn Brighton nos Fawrth

Brighton 0-0 Caerdydd

Gêm gyfartal ddi-sgôr gafodd Caerdydd nos Fawrth yn erbyn Brighton a hynny o ganlyniad i waith gwych y ddau gôl-geidwad.

Methu manteisio ar eu buddugoliaeth nos Wener wnaeth yr Adar Glas wrth deithio i'w gêm oddi cartref cyntaf y tymor a hynny i Stadiwm Amex.

Llwyddodd Tomasz Kuszczak a David Marshall i wneud arbedion gwych yn ystod y gêm, gêm wnaeth sicrhau pwynt cynta'r tymor i'r tîm cartref.

Ymdrech orau Kuszczak ar ran Brighton oedd arbediad dwbl wedi 77 munud i wadu gôl i Joe Mason a Etien Velikonja.

I Marshall, bu'n ymdrechu i gadw'r bêl o'r rhwyd gan ergydion Craig Mackail-Smith a Saltor Bruno.

Doedd 'na ddim newid yn y ddau dîm o'r 11 a gychwynnodd eu gemau cyntaf dros y penwythnos.

Roedd Gus Poyet a Malky Mackay wedi cadw ffydd yn eu chwaraewyr, er i Brighton golli oddi-cartref yn erbyn Hull o gôl i ddim ddydd Sadwrn a Chaerdydd yn ennill o'r un sgôr gartref yn erbyn Huddersfield nos Wener.

Cafwyd y dorf mwya' yn Stadiwm Amex nos Fawrth, 25,518.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
GEMAU GWAHANIAETH GOLIAU PWYNTIAU
1. Blackpool 2 3 6
2. Sheffield Wednesday 2 1 4
3. Charlton 2 1 4
4. Ipswich 2 1 4
5. Nottingham Forest 2 1 4
6.CAERDYDD 2 1 4

Straeon perthnasol