Mwy yn derbyn band eang cyflym iawn

Opteg ffibr Image copyright Other
Image caption Y gobaith yw y bydd y ddarpariaeth yn hwb i fusnesau'r dref

Cyhoeddodd cwmni BT bod band eang cyflym iawn ar gael am y tro cyntaf i gartrefi a busnesau yn Yr Wyddgrug.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd 7,500 o gartrefi yn manteisio ar y cysylltiad cyflym â'r we wrth i beirianwyr gwblhau'r gwaith o uwchraddio'r rhwydwaith lleol.

Mae buddsoddiad BT yn yr ardal ar ben buddsoddiad Llywodraeth Cymru fel rhan o'i hymgais i gael 96% o gartrefi a busnesau Cymru ar y rhwydwaith band eang cyflym iawn erbyn diwedd 2015.

Dywedodd cyfarwyddwr BT yng Nghymru, Ann Beynon: "Mae dyfodiad band eang ar ffibr i'r Wyddgrug yn hwb aruthrol i fusnesau a chartrefi yn yr ardal.

"Fe ddaw â hwb mawr i fusnesau yn y cyfnod economaidd heriol yma, ac yn cyfoethogi bywydau pobl.

"Mae'n cynnig ffyrdd newydd o weithio i fusnesau drwy ganiatáu trosglwyddo ffeiliau fideo a data mawr bron yn syth."

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Aelod Seneddol Delyn, David Hanson.

"Mae band eang cyflym iawn yn arf hanfodol i fusnesau lleol, ac mae'n bwysig i ni eu cefnogi yn y cyfnod economaidd anodd yma," meddai.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd hyn yn arwain at ehangu busnesau lleol a chreu swyddi newydd i'r ardal, a bydd hefyd yn trawsnewid bywydau pobl yr ardal sy'n defnyddio'r dechnoleg ar gyfer addysg, adloniant a gwefannau cymdeithasol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.