Bachgen 10 oed ar goll ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ynghylch lleoliad bachgen 10 oed sydd ar goll yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Y tro olaf i Kyl Boaler gael ei weld oedd ym Mharc Gwledig Bryngarw tua 3:30pm Ddydd Mercher.

Derbyniodd yr heddlu adroddiadau ei fod ar goll yn fuan wedi hynny ar ôl i'w ofalydd a staff sy'n gweithio yn y parc chwilio amdano.

Disgrifir Kyle fel bachgen tenau, 4 troedfedd o uchder gyda gwallt brown/tywodliw byr.

Roedd e'n gwisgo crys-T gwyrddfelyn gyda streipen las a throwsus llwydfelyn.

Cafodd ei weld yn chwarae ar gastell neidio cyn iddo fynd ar goll.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 999.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.