'Cytundeb' rhwng Warren Gatland a'r Llewod

Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru

Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi dweud ei fod wedi cytuno i fod yng ngofal tîm y Llewod ar eu taith i Awstralia y flwyddyn nesaf, ond bydd hefyd yn caniatáu iddo fod yng ngofal Cymru ar gyfer gemau'r hydref eleni.

Mae disgwyl i Gatland, 48 oed, gael ei benodi'n swyddogol fel hyfforddwr y Llewod yn gynnar ym mis Medi.

Roedd y Llewod am iddo roi'r gorau i'w swydd gyda Chymru am flwyddyn.

Ond mae Gatland wedi mynnu mai ef fydd wrth y llyw ar gyfer y gemau yn erbyn Awstralia a Seland Newydd.

"Does dim byd wedi ei arwyddo," meddai Gatland.

"Ond mae'n agos iawn erbyn hyn.

"Os fyddaf yn derbyn y swydd, fe fyddaf yn gweithio i'r Llewod am 10 mis, ond maen nhw wedi caniatau i mi aros yn y fy swydd ar gyfer y gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon ac yn erbyn Awstralia gyda Chymru."

Gatland yw'r ffefryn ar gyfer swydd y Llewod ers tro, ac ym mis Mawrth cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y byddai'n cael ei rhyddhau o'i gytundeb pe bai'n cael cynnig y swydd.

Anaf

Roedd disgwyl i'w benodiad gael ei gwblhau yn gynt, ond gohiriwyd y broses wedi i Gatland dorri ei ddwy ffêr mewn damwain wrth lanhau ffenestri ei gartref yn Seland Newydd.

Oherwydd yr anaf, bu'n rhaid i Rob Howley gymryd yr awenau gyda Chymru ar gyfer eu taith nhw i Awstralia yn gynharach eleni, er i Gatland fedru ymuno â'r garfan i wylio'r ddwy gêm olaf.

Bydd Howley wrth y llyw eto wrth i Gymru wynebu Samoa a'r Ariannin ym mis Tachwedd, ac ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.

Ond roedd Undeb Rygbi Cymru yn awyddus i Gatland fod yn ôl ar gyfer gemau Seland Newydd (Tachwedd 24) ac Awstralia (Rhagfyr 1).

Mae'n ymddangos bod y Llewod wedi cytuno gyda'r dymuniad hwnnw.

Os fydd y penodiad yn cael ei gadarnhau, Gatland fydd yr ail ddyn o Seland Newydd i reoli'r Llewod wedi cyfnod aflwyddiannus Graham Henry yn 2001.

Henry oedd hyfforddwr Cymru ar y pryd hefyd ond ymddiswyddodd yn ddiweddarach.

Roedd Gatland, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, yn rhan o dîm hyfforddi Ian McGeechan gyda'r Llewod yn Ne Affrica yn 2009.