Arholiad TGAU
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymateb dau i sylw'r Gweinidog Addysg ar ganlyniadau TGAU

24 Awst 2012 Diweddarwyd 08:47 BST

Wrth i ffrae wleidyddol gorddi ynglŷn â chanlyniadau TGAU disgyblion Cymru, mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews yn dweud bod yna gwestiynau mawr i'w hateb.

Canlyniadau iaith Saesneg sydd o dan y chwyddwydr.

Mae Mr Andrews wedi galw ân ymchwiliad ar unwaith i'r sefyllfa.

Mae'n honni fod byrddau arholi dan bwysau i farcio yn galetach, rhywbeth y mae Llywodraeth San Steffan yn ei wadu.

Garry Owen fu'n trafod y mater gyda Huw Foster Evans, pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a'r sylwebydd ar y byd addysg yr Athro Syr Deian Hopcyn.