Miliwnydd yn Gadeirydd newydd i Glwb Pêl-droed Casnewydd

Rodney Parade Image copyright bbc
Image caption Mae'r clwb yn chwarae yn Rodney Parade y tymor yma

Mae un o enillwyr y loteri wedi cael ei benodi yn gadeirydd Clwb Pêl-Droed Casnewydd.

Fe enillodd Les Scadding £45.5 miliwn ar yr EuroMillions gyda'i wraig yn 2009.

Mae'n un o gefnogwyr Casnewydd erioed.

Roedd o wedi derbyn cynnig yn ddiweddar i ymuno a'r bwrdd ac mae o bellach wedi ei benodi'n Gadeirydd wedi i Chris Blight ymddiswyddo fis Gorffennaf.

Mae'r clwb, sydd ar frig Uwchgynghrair Blue Square, yn paratoi i dderbyn buddsoddiad newydd gan ŵyr busnes lleol.

Wedi 10 mlynedd fel cadeirydd fe adawodd Mr Blight yn gynharach eleni.

Fe wnaeth awgrymu bod sylwadau sarhaus cefnogwyr tuag ato yn ffactor yn ei benderfyniad.

Roedd 'na adroddiadau bod Blight wedi derbyn galwadau ffôn sarhaus, ar ei ffôn symudol ac yn ei gartref, gan unigolion anhapus ei fod wedi atal buddsoddiad newydd posib i'r clwb.

David Hando oedd y cadeirydd dros dro ond fe fydd o'n parhau fel llywydd anrhydeddus nawr.

Mae Tony Pring a Dave Roberts wedi ymuno â'r bwrdd fel cyfarwyddwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.