Tommy Smith yn ymuno â Chaerdydd o QPR

Tommy Smith Image copyright Getty Images
Image caption Symudodd Smith i QPR yn ddwy flynedd yn ôl

Mae Tommy Smith wedi ymuno gyda Chlwb Pêl-Droed Caerdydd o Queens Park Rangers.

Dydi'r ffi ddim wedi ei ddatgelu.

Fe symudodd Smith, 32 oed, i QPR am tua £1.5 miliwn ar gytundeb tair blynedd ym mis Ionawr 2011 ar ôl symud yno ar fenthyg yn gyntaf ym mis Awst 2010.

Bu'n chwarae o dan reolwr Caerdydd Malky Mackay yn Watford.

Mae o wedi cwblhau ei drosglwyddiad i Gaerdydd mewn pryd i fod ar gael ar gyfer gêm yr Adar Glad ddydd Sadwrn oddi cartref yn erbyn Bristol City.

Mae o wedi ymuno â Chaerdydd ar gytundeb dwy flynedd.

Yn ogystal â phrofiad Uwchgynghrair gyda Watford a QPR, mae o wedi cael y profiad gyda Portsmouth.

Roedd yn chwarae yn gyson i QPR yn y tîm enillodd ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair ar ddiwedd tymor 2010-11.

Fo sgoriodd gôl gyntaf y clwb ar ôl eu dyrchafiad yn yr uwchgynghrair.

"Mae'r clwb eisiau diolch i Tommy am ei wasanaeth a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol," meddai datganiad ar ran QPR.

Mae Caerdydd hefyd wedi arwyddo'r ymosodwr Heidar Helguson a'r amddiffynnwr Matthew Connolly o QPR eisoes yr haf yma.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.