Lloegr v De Affrica: Glaw yn tarfu

Alastair Cook capten Lloegr Image copyright PA

Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chwarae yn y gêm brawf rhwng Lloegr a De Affrica yng Nghaerdydd ar ôl 5.3 pelawd oherwydd y glaw.

Dechreuodd y chwarae am 3pm wedi ei gyfyngu i 24 pelawd.

O fewn dim wrth i ragor o law syrthio cafodd hyn ei gyfyngu i 23 pelawd.

Llwydodd Ian Bell i sgorio 26 oddi ar 18 pêl, gyda Lloegr yn cyrraedd 37-0 cyn i'r glaw ddychwelyd a rhoi diwedd ar y gêm.

Y gêm yng Nghaerdydd oedd y cyntaf mewn cyfres o bump.