Bristol 4-2 Caerdydd

Image copyright Getty Images

Bristol 4-2 Caerdydd

Bu'n haf tymhestlog i gefnogwyr Caerdydd, ac mae dechrau'r tymor wedi bod yn amrywiol iddyn nhw hefyd.

Cyn dydd Sadwrn roedd tîm Malky Mackay heb ildio gôl, ond dim ond wedi sgorio un yn eu dwy gêm hyd yma.

Ddydd Sadwrn fe chwalwyd yr amddiffyn.

Roedd Bristol City eisoes wedi cael mwy o'r chwarae a mwy o ergydion cyn i Stephen Pearson eu rhoi ar y blaen wedi 32 o funudau.

Fe fydd Malky Mackay wedi hoffi cael sgwrs gyda'i dîm ar yr egwyl, gan wybod eu bod yn ffodus o fod un gôl yn unig ar ei hôl hi, ond nid felly y bu.

Gydag eiliadau yn unig yn weddill o'r hanner cyntaf, camodd Martin Woolford i'r cwrt a tharo'i ergyd i gornel y rhwyd i ddyblu'r fantais.

Daeth Joe Mason i'r maes fel eilydd yn lle Aaron Gunarsson ar ddechrau'r ail gyfnod er mwyn rhoi mwy o awch i ymosod Caerdydd, ac fe dalodd hynny ar ei ganfed.

Mason oedd wrth law wedi 57 munud i benio pas Heidar Helguson i'r rhwyd i gau'r bwlch.

Ond wrth geisio gwthio am un arall i unioni'r sgôr roedd Caerdydd yn rhy agored yn y cefn, ac wedi 70 munud fe sgoriodd Woolford un arall o bas Sam Baldock i'w gwneud hi'n 3-1.

Pan 'roedd hi'n ymddangos fod y gêm ar ben, fe ddaeth llygedyn o obaith i'r ymwelwyr.

Croesiad Kevin McNaughton arweiniodd at gyfle i Heidar Helguson, ac fe rwydodd y gŵr o Wlad yr Iâ gyda naw munud yn weddill.

Ond barodd y gobaith ond am saith munud. Sam Baldock oedd yno wedi 87 munud i sgorio unwaith eto yn erbyn amddiffyn sigledig Caerdydd, a'r tro yma doedd dim ffordd yn ôl.

Straeon perthnasol