Drenewydd 3-2 Bangor

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Drenewydd 3-2 Bangor (dydd Sadwrn)

Mae'n argoeli i fod yn dymor cyffrous yn Uwchgynghrair Cymru y tymor hwn, a dim ond dwy gêm sydd wedi eu chwarae.

Roedd Bangor - pencampwyr 2011 ac yn ail y tymor diwethaf - ar daith i'r Drenewydd, ac fe gafwyd diweddglo dramatig ar Barc Latham.

Roedd y sgôr yn gyfartal 1-1 ar yr egwyl gyda Luke Boundford yn unioni'r sgôr wedi i Chris Simm roi Bangor ar y blaen.

Yr un oedd y sgôr wedi 84 munud o chwarae pan aeth Bangor ar y blaen gyda gôl Marc Smyth, ond fe ddaeth y Drnewydd yn gyfartal eto wedi 86 munud diolch i Steve Blenkinsop.

Roedd amser am un arall, a Boundford gafodd ei ail yn y gêm i sicrhau'r pwyntiau i'r tîm cartref.

Llanelli 2-2 Prestatyn (dydd Sadwrn)

Roedd tipyn o sioc ar Barc Stebonheath hefyd wrth i Brestatyn sicrhau pwynt yn erbyn Llanelli.

Llanelli aeth ar y blaen ddwywaith - Martin Rose wedi 8 munud a Lee Surman wedi 48 munud.

Ond fe ddangosodd yr ymwelwyr ysbryd da i ddod yn ôl - Jason Price yn ei gwneud hi'n 1-1 wedi 24 munud, a Paul O'Neill wedi 76 munud i ennill pwynt i'w dîm.

GAP Cei Cona 2-0 Port Talbot (dydd Sadwrn)

Daeth buddugoliaeth hefyd i Gei Cona wrth iddyn nhw groesawu Port Talbot.

Daeth y ddwy gôl yn yr hanner cyntaf o fewn pedwar munud i'w gilydd - Michael Thompson wedi 33 munud a Gary O'Toole wedi 37.

Airbus UK Brychdyn 1-2 Caerfyrddin (dydd Sadwrn)

Yn y gêm hwyr brynhawn Sadwrn, roedd Airbus yn croesawu Caerfyrddin a'r ymwelwyr aeth ar y blaen.

Corey Thomas gafodd y gôl i Gaerfyrddin, ond wedi 67 munud sgoriodd Jack Lewis i unioni'r sgôr.

Ond roedd diweddglo pwysig yma hefyd wrth i Liam Thomas sgorio yn y funud olaf i roi'r pwyntiau i Gaerfyrddin.

Lido Afan 1-3 Seintiau Newydd (nos Wener)

Fe wnaeth y Seintiau Newydd, pencampwyr presennol yr Uwchgynghrair, sicrhau tri phwynt gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Lido Afan.

Borrelli roddodd y tîm cartref ar y blaen ond fe darodd y pencampwyr yn ôl gyda goliau gan Fraughan ac Evans.

Yna sgoriodd Draper yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Seintiau Newydd.

Aberystwyth 1-1 Y Bala (nos Wener)

Yn y gêm arall nos Wener gem gyfartal oedd hi rhwng Aberystwyth a'r Bala.

Gol gan Follows ar ôl 78 munud sroddodd Aberystwyth ar y blaen.

Roedd hi'n edrych yn ddu ar y Bala ar ôl i Murtagh gael ei anfon o'r cau ar ôl ei ail garden felen.

Ond llwyddodd Connolly i ddod a'r sgôr yn gyfartal gyda chic o'r smotyn gyda thri munud yn weddill.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.