Ymosodiad cyfrifiadurol ar Hain

Gwefan Peter Hain Image copyright Peter Hain
Image caption Dyma oedd i'w weld ar wefan Mr Hain ddydd Sadwrn

Dywed Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, ei fod yn ddig mai ei wefan yw'r ddiweddaraf i gael ei thargedu gan hacwyr

Dywed y grŵp Anonymous eu bod yn ymosod yn electroneg ar wefannau llywodraeth fel dial am y modd y deliodd y DU gydag achos sefydlydd Wikileaks, Julian Assange.

Ond mynnodd Mr Hain bod yr ymosodiad yn ffurf o fwlio.

Dywedodd: "Mae'n fy atgoffa o'r ymosodiadau a gefais yn yr ymgyrch gwrth-apartheid a gwrth-ffasgaeth."

Ychwanegodd ei fod mewn gwirionedd wedi cefnogi Mr Assange, a gafodd loches wleidyddol gan Ecuador er mwyn osgoi cael ei estraddodi i Sweden i wynebu cyhuddiadau o droseddau rhywiol.

"Os mai dyna'r rheswm - dial am driniaeth Assange - mae'n rhyfedd ymosod arna' i," meddai Mr Hain.

"Dydyn nhw heb wneud eu hymchwil oherwydd rwyf wedi cefnogi Assange a gwrthwynebu ei estraddodi."

Ffasgwyr

Dywedodd ei fod yn teimlo fel bwlio, gan ychwanegu: "Rwyf wedi cael ymosodiadau fel hyn am 40 mlynedd yn bennaf gan bobl hiliol neu ffasgwyr.

"Yn dilyn targedu sawl gwefan dros y misoedd diwethaf, mae hwn yn dystiolaeth bellach bod angen i'r DU ddeffro i'r bygythiad cynyddol i ddiogelwch cyfrifiadurol."

Dywedodd bod gwaith i adfer y wefan yn digwydd cyn gynted â phosib.

Mae Anonymous - cynghrair anffurfiol o hacwyr cyfrifiaduron - wedi lansio nifer o ymosodiadau sy'n atal gwasanaeth amryw wefannau, ac yn enwedig rhai llywodraethol.

Ddydd Llun llwyddodd aelodau i ymosod ar wefannau'r llywodraeth yn San Steffan, gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.