Gwrthdrawiad: Anafiadau pen i ddyn

Mae gyrrwr lori oedd wedi gadael ei gerbyd i geisio symud ceffylau oddi ar y ffordd yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ben.

Cafodd y dyn ei daro gan gar yn oriau man fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am 00:40 fore Sul ar yr A465 rhwng cylchfan Hirwaun a Glyn-nedd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod car Ford Focus glas yn teithio i gyfeiriad y gorllewin pan darodd yn erbyn y gyrrwr lori 50 oed.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.