Amffitheatr newydd ar dir oriel

Views towards Pwllheli Image copyright Plas Glyn y Weddw
Image caption Ar ddiwrnod clir bydd modd gweld cyn belled â Phwllheli ar hyd yr arfordir

Cafodd amffitheatr a grëwyd mewn rhan o goedwig yng Ngwynedd ei dadorchuddio dros y penwythnos ger Oriel Plas Glyn y Weddw.

Mae'r cynllun £750,000 gan yr oriel ger Llanbedrog, Gwynedd, hefyd yn cynnwys llwybrau cerdded, ystafell amlbwrpas a maes parcio.

Cafodd y tir a adnabyddir fel Y Winllan ei brynu yn 2008, ond cafodd y gwaith ei ddal yn ôl oherwydd tywydd drwg.

Dywedodd cyfarwyddwr yr oriel, Gwyn Jones: "Fe gafodd y maes parcio ei gwblhau cyn y Nadolig, ond bu oedi ar y gwaith cerrig ar yr amffitheatr ei hun oherwydd y tywydd gwlyb."

Ysbrydoliaeth

Fe ddefnyddiwyd deunyddiau lleol ar gyfer y strwythur 250 o seddi, gyda gwenithfaen o chwarel Trefor a phren a gafwyd wrth glirio'r safle.

Image copyright Plas Glyn y Weddw
Image caption Mae Oriel Plas Glyn y Weddw ei hun yn adeilad cofrestredig Gradd II

"Y cam olaf oedd rhwystr gwydr heb ffrâm o amgylch y llwyfan er mwyn osgoi damweiniau, oherwydd mae'n dipyn o gwymp pe bai rhywun yn disgyn oddi ar y llwyfan," ychwanegodd Mr Jones.

Daeth rhan o'r ysbrydoliaeth ar gyfer yr amffitheatr o Theatr Minack yng Nghernyw lle mae perfformiadau'n digwydd i gefndir golygfeydd godidog o'r arfordir.

Mae adeilad Llanbedrog yn llai, ond ar ddiwrnod clir bydd y gynulleidfa yn medru gweld cyn belled â Phwllheli ar hyd arfordir Llŷn.

'Coed brodorol'

Cafodd y goedwig ei dynodi yn "goedwig hynafol" sy'n dyddio nôl i'r 16eg ganrif, a dywedodd Mr Jones bod clirio'r goedwig wedi bod yn dasg anferth.

"Doedd y llwybrau heb fod ar agor i'r cyhoedd ers 1946, ac wedi clirio'r rhododendron oddi yno fe ddaethon ni o hyd i ddwy ffynnon naturiol."

Wedi'r gwaith clirio, mae cynllun 25 mlynedd i sicrhau mai dim ond coed brodorol fydd yn cael eu plannu yno o hyn ymlaen.

Bydd yr amffitheatr yn cael ei heniw'n Amffitheatr John Andrews ar ôl un o noddwyr amlwg yr oriel.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.