Cludo deifiwr i'r ysbyty

Chwarel Dorothea
Image caption Mae dros 20 o ddeifwyr wedi marw yn hen chwarel Dorothea ers 1990

Mae deifiwr wedi cael ei dynnu o chwarel yng Ngwynedd wedi iddo fynd i drafferthion yno.

Cafodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi alwad am 2:49pm brynhawn Sul i ddweud bod dyn yn diodde' o gyflwr parlys môr (the bends).

Fe gafodd tîm achub yr Awyrlu ei galw o'r Fali ar Ynys Môn, ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i uned arbenigol yn Ysbyty Murrayfield yng Nghilgwri.

Does dim manylion am ei gyflwr wedi eu cyhoeddi hyd yma.

Ers 1990, mae dros 20 o ddeifwyr wedi marw yn yr hen chwarel yn Nyffryn Nantlle, sy'n boblogaidd gan ddeifwyr trwy Brydain a thu hwnt.