Cyhuddo dynes o droseddau moduro

Car ym mharc y Rhath Image copyright Media Wales
Image caption Mae'r heddllu wedi cyhuddo dynes 24 oed

Mae dynes 24 oed wedi cael ei chyhuddo o droseddau moduro ar ôl i gar ddiweddu mewn llyn yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y car wyro o'r ffordd i Lyn y Rhath 9.15am ddydd Sul.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y car ei hachub.

Fe wnaeth y gwasanaethau achub gymryd dwy awr i godi'r car i'r lan.