Buddugoliaeth cyntaf Wrecsam oddi-cartref

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Tamworth 0-1 Wrecsam

Bu'n rhaid i Wrecsam ddibynnu ar gôl i'w rwyd ei hun gan un o chwaraewyr Tamworth i gofnodi eu buddugoliaeth gyntaf oddi-cartref y tymor yma.

Doedd y Dreigiau ddim wedi ennill ers gêm gyntaf y tymor a hynny ar y Cae Ras yn erbyn Woking.

Duane Courtney wnaeth sgorio i'w rwyd ei hun wedi wyth munud o'r gêm.

Dyma oedd y gêm gyntaf i Tamworth ei cholli yn Uwchgynghrair Blue Square y tymor yma.

Fe wnaeth Wrecsam wastraffu sawl cyfle wedyn i roi mwy o fantais i'r ymwelwyr gan gynnwys methu cic o'r smotyn.

Methodd Neil Ashton a churo'r gôl geidwad Richard Tait wedi iddo fo droseddu yn erbyn Robert Ogleby yn yr ail hanner.

Roedd yr ergyd wedi 50 munud yn rhy lydan.

Cafodd Tommy Wright ei anfon oddi ar y cae i'r tîm cartref saith munud yn ddiweddarach.

Ond methu wnaeth Wrecsam â manteisio ar y ffaith mai 10 dyn oedd gan Tamworth.

Gêm nesaf Wrecsam fydd croesawu'r tîm sydd ar frig y gynghrair, Casnewydd, i'r Cae Ras ddydd Sadwrn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CASNEWYDD 4 7 12
2. Macclesfield 5 6 12
3. Forrest Green 5 4 11
4. Henffordd 4 6 10
5. Luton 5 4 10
10. WRECSAM 5 1 8

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.