Canslo noson ola' Gŵyl Gobaith oherwydd y tywydd

Steps Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd Steps i fod i berfformio nos Lun yn yr ŵyl

Oherwydd y tywydd bu'n rhaid i drefnwyr Gŵyl Gobaith yn Sir y Fflint ganslo eu noson olaf nos Lun.

Eleni roedd yr ŵyl, dros benwythnos Gŵyl Banc mis Awst, wedi ymestyn i bedair noson.

Y grŵp Steps, a ddaeth yn ôl at ei gilydd wedi bwlch o 10 mlynedd, oedd i fod i berfformio nos Lun.

Roedd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar dir Coleg Glannau Dyfrdwy / Prifysgol Glyndŵr yn Llaneurgain ger Yr Wyddgrug.

"Oherwydd tywydd gwael, mae'n resyn ganddo ni gyhoeddi, bod rhaid canslo'r noson gyda Steps," meddai neges Twitter gan y trefnwyr.

Fe fydd unrhyw un oedd wedi prynu tocynnau yn cael arian yn ôl drwy gysylltu gyda'r asiantaethau gwerthu tocynnau, meddai'r trefnwyr.

Mae'r tywydd wedi bod yn wael iawn, glaw a gwyntoedd cryfion, yn y gogledd ddwyrain yn ystod y dydd.

Tair noson

Yn cefnogi Steps nos Lun i fod yr oedd Björn Again, Pheena a Sophie Evans.

Roedd y cyngerdd i fod i gychwyn am 6.30pm.

Cafodd tair noson arall yr ŵyl eu cynnal.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r ŵyl gael ei chynnal.

Nos Wener roedd Hayley Westenra yn perfformio yno gyda Cherddorfa Ieuenctid Cymru, Sioned Terry ac Amore.

Bryn Fôn oedd un o brif berfformwyr nos Sadwrn ac roedd Y Tri Ffantom a Shân Cothi yn perfformio nos Sul.

Roedd y pedair noson yn codi arian ar gyfer gwahanol elusennau, Ymchwil Canser Prydain, Ambiwlans Awyr Cymru, CLIC Sargent a Heart to Heart.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.