Sir Nottingham yn cynnig am James Harris

Mae Sir Nottingham wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud cynnig am fowliwr Morgannwg, James Harris.
Mae'r chwaraewr 22 oed o dan gytundeb gyda Morgannwg tan 2013, ond mae cymal o fewn y cytundeb yn caniatáu iddo adael y clwb pe na bai nhw'n chwarae yn y prif gynghrair.
Dywedodd hyfforddwr Sir Nottinghams, Mick Newell, eu bod wedi gwneud cynnig i ddenu Harris i Trent Bridge y tymor nesaf.
"Roeddwn yn ymwybodol pe na bai Morgannwg yn llwyddo i sicrhau dyrchafiad yna byddai'r chwaraewr â'r cyfle i chwilio am glwb gwahanol.
"Mae Morgannwg hefyd am gael ateb fel eu bod nhw'n gallu cynllunio i'r dyfodol."
Yn ddiweddar dywedodd Harris ei bod yn bosib y bydd yn rhaid iddo adael Morgannwg er mwyn sicrhau llwyddiant rhyngwladol
"O bosib rhywbryd bydd yn rhaid i mi wneud dewis anodd. Bydd yn rhaid penderfynu beth yw'r opsiwn gorau, ond yma mae fy nghalon a byddwn wrth fy modd yn gweld Morgannwg yn cael llwyddiant."