Difrod sylweddol yn ffatri cwmni trelars Ifor Williams wedi tân

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw tua 1pm ddydd Mawrth Image copyright Adam Dandy
Image caption Cafodd y gwasanaeth tân eu galw tua 1pm ddydd Mawrth

Mae difrod sylweddol wedi bod mewn ffatri cwmni trelars ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddiffodd tân mawr yn ffatri cwmni trelars Ifor Williams.

Llwyddodd holl staff y cwmni i adael yr adeilad.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw tua 1pm a dywedodd llefarydd fod y tân wedi ei ddiffodd erbyn 4.11pm ond bod saith criw ac uned digwyddiadau yn dal ar y safle.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym yn ddiolchgar i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu hymateb cyflym ac am eu hymdrechion wrth fynd i'r afael â'r tân.

"Mae difrod sylweddol wedi ei wneud i ran o'r adeilad ond y peth pwysica yw bod y 70 aelod o staff wedi gadael yn ddiogel.

"Rydym yn cydweithio yn agos gyda'r gwasanaeth tân i ganfod yr achos.

"Yn y cyfamser, rydym yn cynnal asesiad llawn o'r difrod ond does dim effaith ar brif ran yr adeilad.

"Gobeithio y gallwn ail gychwyn cynhyrchu yn fuan iawn."

Cafodd diffoddwyr o Lannau Dyfrdwy, Bwcle, Yr Wyddgrug, Treffynnon, Wrecsam a Llanelwy eu galw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.