Abertawe yn gwrthod cynnig am Scott Sinclair

Scott Sinclair Image copyright Getty Images
Image caption Mae wedi sgorio 35 o goliau i Abertawe mewn 90 gêm

Mae BBC Cymru'n deall bod Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwrthod cynnig o £6.2m oddi wrth Manchester City ar gyfer yr asgellwr Scott Sinclair.

Daw cytundeb y chwaraewr 23 oed i ben ddiwedd y tymor ac mae wedi gwrthod arwyddo cytundeb newydd.

Mae Michael Laudrup, rheolwr Abertawe, yn derbyn y gallai'r chwaraewr adael cyn diwedd y "ffenestr drosglwyddo" ddiwedd y mis.

Mewn 90 o gemau mae wedi sgorio 35 o goliau i Abertawe.

"Tan Awst 31 gallai unrhyw beth ddigwydd," meddai Laudrup.

Straeon perthnasol