Clwb Bangor yn colli un o'u harwyr

Bill Souter Image copyright BCFC
Image caption Roedd Bill Souter yn aelod o "dîm gorau Bangor erioed"

Bu farw un o arwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor, Bill Souter, yn 81 oed.

Roedd Souter yn aelod o dîm Bangor enillodd Gwpan Cymru yn 1962, ac aeth ymlaen i herio Napoli yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn yr un flwyddyn.

Bydd ei angladd ddydd Llun, Medi 3, yn amlosgfa Blacon ger ei gartref yng Nghaer.

Dywedodd Mike Smith, un o gefnogwyr Bangor: "Cafodd Bill ei eni yn Dundee, a chwaraeodd i Burnley a Caer cyn arwyddo i Fangor dan arweiniad Tommy Jones.

"Dyma oedd oes aur clwb Bangor, ac yn ôl pob tebyg y tîm gorau erioed i gynrychioli'r ddinas.

"Mae'n drist iawn clywed bod cysylltiad arall gyda'r tîm eiconig hwnnw wedi ein gadael."

Pen-blwydd

Mae'n gyd-ddigwyddiad trist bod Bill Souter wedi marw wrth i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor baratoi i ddathlu hanner can mlwyddiant y gemau yn erbyn Napoli.

Ym Medi 1962, roedd AC Napoli ar frig y gêm yn Ewrop, yn teithio i Fangor yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bangor yn dathlu sgorio yn erbyn AC Napoli yn yr Eidal yn 1962

Ond fe aeth rhywbeth o'i le.

Collodd yr Eidalwyr i'r chwaraewyr rhan-amser oedd ar y pryd yn chweched yng Nghynghrair Sir Caer.

Bangor oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill gêm yn Ewrop, o 2-0.

Collodd Bangor yr ail gymal o 3-1 yn yr Eidal, ac o dan y rheolau presennol fe fyddai'r Cymry wedi mynd ymlaen i'r rownd nesaf oherwydd y gôl oddi cartref.

Ond roedd y rheolau'n wahanol bryd hynny a bu'n rhaid cael gêm arall ar gae Arsenal yn Highbury, ac fe gollodd Bangor o 2-1.

Noson Eidalaidd

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dechrau ddydd Sadwrn, Medi 1, wedi eu trefnu gan Gymdeithas Cefnogwyr Bangor i nodi'r pen-blwydd.

I ddechrau bydd Bangor yn croesawu Aberystwyth i Stadiwm The Book People ddydd Sadwrn ar gyfer eu gêm yn Uwchgynghrair Cymru, ac fe fydd aelodau o gangen Llundain o Glwb Cefnogwyr Napoli yn bresennol.

Wedi'r gêm honno, bydd gêm arall rhwng cefnogwyr Bangor a chefnogwyr Napoli i ddathlu 50 mlynedd ers i'r ddau glwb gwrdd yn Ewrop.

I orffen y diwrnod bydd noson gyda thema Eidalaidd yn y clwb, ac fe fydd y gêm rhwng Bangor a Napoli yn 1962 yn cael ei dangos yno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.