Heddlu'n canfod corff yn Afon Taf

Joseph Lacey Image copyright SWP
Image caption Bu Joseph Lacey ar goll ers Awst 20

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi darganfod corff dyn yn Afon Taf.

Mae'r heddlu'n credu mai corff Joseph Lacey ydyw - dyn a fu ar goll ers Awst 20.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad: "Gallwn gadarnhau bod aelod o'r cyhoedd wedi gweld corff ar lan Afon Taf am 9:00pm nos Sul, Awst 26.

"Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond credir mai corff Joseph Lacey ydyw.

"Nid ydym yn credu fod amgylchiadau amheus ynglŷn â'r digwyddiad, ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu."