Cyhoeddi arian ychwanegol i Chwaraeon Anabledd Cymru

Simon Richardson Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y Cymro Simon Richardson enillodd fedal aur cyntaf Prydain yn Beijing yn 2008

Wrth i Seremoni Agoriadol y Gemau Paralympaidd yn Llundain gael ei gynnal ddydd Mercher, mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi mwy o arian i chwaraeon anabl.

Bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn derbyn £20,000 yn ychwanegol, gan fynd â'r cyfanswm y maen nhw'n ei dderbyn dros y trothwy o £1 miliwn bob blwyddyn.

Fe fydd yr arian yn mynd tuag at raglenni hyfforddi i sicrhau bod sêr Paralympaidd y dyfodol yn cael eu hadnabod a'u meithrin i gyrraedd eu llawn botensial.

'Cyffrous'

Dywedodd cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister: "Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi'r arian yma heddiw o bob diwrnod.

"Rydym ar drothwy pythefnos arall o chwaraeon cyffrous i gefnogi'r 38 o athletwyr Paralympaidd o Gymru.

"Mae ein cenedl fechan yn bwerdy Paralympaidd, ac mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi bod yn allweddol wrth godi proffil a chynyddu llwyddiant chwaraeon anabl yn y wlad.

"Nid ar y lefel uchaf yn unig y gwelir y llwyddiant yna chwaith, ond yn nhermau creu dros filiwn o gyfleoedd ar gyfer chwaraeon anabl ar draws Cymru ers degawd."

'Safon byd eang'

Dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Anabl Cymru, Jon Morgan, eu bod yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i sicrhau eu bod yn buddsoddi'r arian yn strategol.

"Hyfforddwyr yw ein cryfder pennaf yma yng Nghymru, ac rydym yn ffodus iawn o gael hyfforddwyr o safon byd eang fel Billy Pye (nofio), Peter Pearse (boccia) ac Anthony Hughes (Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru) - pob un yn gyn-enillwyr Hyfforddwr y Flwyddyn gyda Chwaraeon Cymru.

"Eu talent nhw sy'n gyfrifol fod gennym gymaint o athletwyr llwyddiannus yn nhîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd 2012.

"Rydym yn buddsoddi yn y dyfodol nawr er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn canfod 'Anthony Hughesiaid' y dyfodol."

Yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008, enillwyd 14 o fedalau gan Gymry (10 aur, 3 arian ac 1 efydd) - pe byddai'r tabl medalau yn seiliedig ar boblogaeth, fe fyddai Cymru ar y brig.

Fel rhan o strategaeth Chwaraeon Anabledd Cymru, maen nhw wedi gosod nod i athletwyr o Gymru i ennill 30 o fedalau dros Gemau 2012 a 2016.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.