Morgannwg v Northants: Niall O'Brien yn sgorio 100

Niall O'Brien Image copyright Empics
Image caption Llwyddod Niall O'Brien i sgorio mwy na 100

Sir Northampton 241-4 v Morgannwg yng Nghaerdydd.

Llwyddodd batiwr agoriadol Northamton, Niall O'Brien, i sgorio 100 o rediadau ar "lain anodd" Morgannwg yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Roedd yr ymwelwyr wedi galw'n gywir ac wedi dewis batio.

Ar ôl i James Harris a Graeme Wagg gymryd wiced yr un arweiniodd partneriaeth O'Brien ac Alex Wakely at 152 o rediadau mewn 58 pelawd.

Cafodd Wakely ei fowlio gan James Allenby am 75 ond llwyddodd chwaraewr rhyngwladol Iwerddon, O'Brien, i sgorio mwy na 100 oddi ar 266 o beli.

Ar ddiwedd y diwrnod sgoriodd 114 o rediadau heb fod allan.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.