Cwpan Capital One: Abertawe 3-1 Barnsley

  • 28 Awst 2012
Luke Morgan
Cafodd Luke Morgan ddwy o goliau Abertawe

Abertawe 3-1 Barnsley

Sgoriodd ymosodwr Abertawe Luke Moore ddwywaith i sicrhau bod Yr Elyrch yn llwyddo i symud ymlaen i drydedd rownd Cwpan Capital One ar ôl curo Barnsley yn Stadiwm Liberty.

Danny Graham roddodd y tîm cartref ar y blaen wedi 24 munud ar ôl ergydio'r bêl o'i frest i'r gôl wedi gwaith gwych gan Angel Rangel.

Llai na chwarter awr ar ôl yr egwyl y daeth gôl gyntaf Moore i gornel ucha'r gôl.

Fe wnaeth Bobby Hassell benio gôl i roi gobaith i Barnsley.

Ond chwe munud cyn i'r chwiban gael ei chwythu fe wnaeth Moore ganfod y rhwyd ar ôl ergydio drwy goesau Ben Alnwick.

100%

Doedd Abertawe ddim yn edrych yn gyfforddus ar ôl gôl Hassell.

Ond mae'r fuddugoliaeth i'r Elyrch yn golygu bod ganddyn nhw record 100% i'r ymgyrch.

Fe wnaeth y rheolwr Michael Laudrup roi cyfle i Ki Sung Yeung a Kyle Bartley gychwyn i'r tîm cartref ar ôl ymuno gyda'r tîm dros yr wythnosau diwethaf.

Roedd wedi gwneud saith newid i'r garfan enillodd yn erbyn West Ham o 3-0 dros y penwythnos.

Mae'r canlyniad tipyn gwahanol i'r hyn ddigwyddodd yn yr un rownd y llynedd, pan wnaeth Yr Amwythig eu curo.